Read in English

Mae’r International Press Institute (IPI) a MIDAS yn cyhoeddi’r alwad gyntaf ar gyfer Cymrodoriaeth NewsSpectrum heddiw, 12 Ebrill.

Mae’r gymrodoriaeth yn agored i newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio i gyfryngau mewn iaith leiafrifol yn yr UE (gan gynnwys ieithoedd mudol a Romani) a’i nod yw annog partneriaethau gwaith rhwng cyfryngau newyddion ieithoedd lleiafrifol a mwyafrifol.

Mae NewsSpectrum yn disgwyl ariannu 40 o gymrodoriaethau yn 2021 drwy ddau gynllun: Collaborative Reporting Fellowships a Professional Placement Fellowships.

Mathau o gymrodoriaethau a dyddiadau cau

Mae’r Collaborative Reporting Fellowship yn cefnogi prosiectau adrodd a gynhelir gan newyddiadurwyr sy’n gweithio i gyfryngau iaith leiafrifol (gan gynnwys cyfranwyr llawrydd rheolaidd) mewn cydweithrediad â newyddiadurwr neu gyfryngau iaith fwyafrifol.

Gall y prosiect adrodd ganolbwyntio ar unrhyw bwnc sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd sy’n berthnasol i gynulleidfaoedd y ddau sefydliad cyfryngau. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n tynnu sylw at sefyllfa neu safbwynt penodol grwpiau lleiafrifol yn yr UE neu’r berthynas rhwng grwpiau lleiafrifol a mwyafrifol. Croesawir prosiectau sy’n rhoi sylw i faterion Ewropeaidd mewn cyfryngau iaith leiafrifol. Mae pob math o adrodd yn gymwys a gellir cyhoeddi straeon mewn unrhyw fformat. Croesewir technegau adrodd straeon digidol / clyweledol. Disgwylir i’r straeon gael eu cyhoeddi gan y cyfryngau lleiafrifol a mwyafrifol.

Y dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer y Collaborative Reporting Fellowships yw 28 Mai 2021. Disgwylir i ddwy alwad ychwanegol o dan y cynllun hwn agor ym mis Mehefin ac Awst. Gweler rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin.

Mae’r Professional Placement Fellowship yn cefnogi lleoliadau gwaith tymor byr neu ymweliadau astudio gan weithwyr proffesiynol cyfryngau iaith leiafrifol gyda chyfryngau iaith fwyafrifol. Mae’r gymrodoriaeth yn agored i holl staff y cyfryngau, gan gynnwys newyddiadurwyr, golygyddion, ffotonewyddiadurwyr, rheolwyr ystafelloedd newyddion, rheolwyr cyfryngau cymdeithasol, rheolwyr cymunedol neu staff sy’n canolbwyntio ar arloesi digidol. Mae cyfranwyr llawrydd rheolaidd hefyd yn gymwys. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi sgiliau cydweithredol a chyfnewid gwybodaeth ar wahanol agweddau ar yr ystafell newyddion, gan gynnwys adrodd newyddion, pontio digidol, modelau busnes, ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac adeiladu cymunedol.

Ystyrir ceisiadau ar gyfer y Professional Placement Fellowship yn barhaus gan ddechrau heddiw, 12 Ebrill, tan 28 Mai 2021. Dim ond un alwad am y Gymrodoriaeth hon sydd wedi ei chynllunio ar hyn o bryd. Gweler rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin.

Cymhwysedd a manylion ymgeisio

Mae gweithwyr proffesiynol mewn cyfryngau iaith leiafrifol yn gymwys ar gyfer y gymrodoriaeth os yw eu cyfryngau wedi eu lleoli yn yr UE neu’r DU ac yn cynhyrchu o leiaf 51% o’i chynnwys mewn iaith ranbarthol neu leiafrifol (gan gynnwys ieithoedd mudol a Romani). Darllenwch ragor am yr ieithoedd sy’n gymwys yma. Mae’n rhaid i’r partner neu’r sefydliad letyol iaith fwyafrifol hefyd fod wedi ei leoli yn yr UE neu’r DU. Croesewir cydweithio trawsffiniol.

Anogir cymrodoriaethau wyneb yn wyneb, yn unol â nod NewsSpectrum o adeiladu partneriaethau cynaliadwy rhwng cyfryngau ieithoedd lleiafrifol a mwyafrifol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r Professional Placement Fellowship. Fodd bynnag, yng ngoleuni pandemig COVID-19, ystyrir hefyd opsiynau o bell, ar yr amod y gellir cynnal y gweithgareddau yr un mor effeithiol.

Yn gyffredinol, disgwylir i’r ddwy gymrodoriaeth bara o leiaf pythefnos, ond mae cyfnodau hyblyg yn bosib. Gellir cynnal y cymrodoriaethau unrhyw bryd rhwng mis Mehefin a 31 Rhagfyr 2021. 

Gall y cymrawd cyfryngau iaith leiafrifol a’r partner neu’r sefydliad darlledu lletyol iaith fwyafrifol wneud cais am hyd at €6,000 yr un fesul cymrodoriaeth. Ar gyfer cymrodyr ieithoedd lleiafrifol, gall y grant dalu costau cyflog (a ad-delir yn uniongyrchol i’r cyflogwr) yn ogystal â chostau lleol (e.e. llety a chynhaliaeth.) Telir costau teithio yn ychwanegol at hyn. Ar gyfer y cyfryngau iaith fwyafrifol, gall y grant hefyd dalu am gostau cyflog yn ogystal â chostau teithio, os yw’n berthnasol. Gyda’i gilydd, mae NewsSpectrum yn disgwyl darparu €480,000 mewn grantiau cymrodoriaeth yn 2021. 

I ymgeisio, dylai gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau sydd â diddordeb ddarllen y disgrifiad llawn, y meini prawf cymhwysedd a dewis, a’r cyfarwyddiadau ymgeisio sydd ar wefan NewsSpectrum. Rhaid anfon y ceisiadau yn Saesneg. Anogir ymgeiswyr i sicrhau partner neu sefydliad ddarlledu lletyol cyn ymgeisio. Fodd bynnag, mae partneriaid prosiect NewsSpectrum yn barod i geisio cysylltu ymgeiswyr addawol gyda sefydliadau lletyol addas os oes angen. 

Dewisir y cymrodyr gan bwyllgor dethol o bum aelod a fydd yn cynnwys arbenigwyr annibynnol. Mae’r rhaglen wedi ymrwymo i ddiogelu annibyniaeth olygyddol yr holl grantïon yn llym. 

Cefndir

Mae NewsSpectrum yn fenter ar y cyd rhwng yr International Press Institute (IPI) a’r European Association of Daily Newspapers in Minority and Regional Languages (MIDAS). Mae’r European Roma Institute for Arts and Culture (ERIAC) hefyd yn bartner cefnogol. 

Mae NewsSpectrum yn rhaglen newydd a gynlluniwyd i annog partneriaethau gwaith rhwng cyfryngau ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys cyfryngau ieithoedd mudol, a’u cymheiriaid mewn ieithoedd mwyafrifol ar draws yr UE. Nod cymrodoriaethau NewsSpectrum yw gwella cydweithrediad rhwng y ddau grŵp a chefnogi cynaliadwyedd cyfryngau ieithoedd lleiafrifol fel aelodau hanfodol o amgylchedd cyfryngau rhydd a pliwralistig yn yr Undeb Ewropeaidd. Maent hefyd yn ceisio cefnogi sylw yn y cyfryngau sy’n adrodd yn wybodus ar faterion lleiafrifol ac sy’n cynnwys safbwynt cynrychiolwyr grwpiau lleiafrifol mewn darllediadau newyddion.

Caiff rhaglen NewsSpectrum ei chyd-ariannu fel cynllun peilot gan y Comisiwn Ewropeaidd (DG Connect), gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan ERIAC. Cyhoeddir ragor o bartneriaethau wrth iddynt gael eu cadarnhau.

Cwestiynau?

Rydym yn annog ymgeiswyr sydd â diddordeb i ymweld â gwefan NewsSpectrum a’n tudalennau Cwestiynau Cyffredin ynghylch ymgeisio. Os oes gennych gwestiynau o hyd, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cysylltiadau

Josh LaPorte (IPI): [email protected]
Anna-Kira Pirhofer (MIDAS): [email protected]

Peidiwch â cholli’r newyddion diweddaraf! Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr NewsSpectrum.


The NewsSpectrum programme is co-funded by the European Commission within the framework of the pilot project “Internship opportunities for Minority Language Media”, with additional financial support from ERIAC. Further partnerships will be announced as they are confirmed.

(Photo by Finn Hackshaw on Unsplash)